|
Rydych yn sicr o gael croeso cynnes Cymreig yn y parc yma sy’n cael ei redeg gan deulu ac sydd wedi ennill nifer o wobrau. Yng nghesail Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Castell Pencelli yn leoliad delfrydol ar gyfer cerdded, seiclo, beicio mynydd, merlota, canwio ar y gamlas gyfagos yn ogystal ag ymlacio yn heddwch a llonyddwch yr ardal brydferth hon.
Mae’r Parc yn darparu ar gyfer carafannau teithiol, cartrefi modur a phebyll. Dim lleiniau tymhorol.
Lleolir Parc Carafan a Gwersylla Castell Pencelli 4 milltir i’r dwyrain o dref farchnad hanesyddol Aberhonddu, sy’n sefyll ar y ffin rhwng Canolbarth a De Cymru.
Mae’r parc yn fach a heddychlon, ar gyrion pentref Pencelli ac o fewn hyd cerdded i gopaon uchaf Bannau Brycheiniog. Mae Tafarn y Royal Oak, 150m o’r parc, yn gyfleus am bryd a sgwrs gyda phobl leol. Ceir hefyd tafarndai gwych sy’n gweini bwyd arbennig gerllaw yn Nhal-y-Bont; Llanfrynach a Llangynidr.
Noder: Caniateir cwn cymorth yn unig yn y parc.

|