|
DATGANIAD HYGYRCHEDD
Mae Castell Pencelli yn Barc Carafannau teithiol a Gwersylla sy’n falch o groesawu ymwelwyr anabl.
Os, ar ôl darllen y datganiad hwn, bydd gennych unrhyw gwestiynau yna ffoniwch 01874 665 451 neu e-bostiwch: access@pencelli-castle.co.uk
- Mae safle parcio car gan bob llain yn y parc.
- Mae lleiniau caled sefydlog neu laswelltog ar gael.
- Mae’r lleiniau yn wastad ac yn hael o ran maint.
- Mae’r lonydd gyrru i gyd yn wastad ac yn llyfn gyda tharmac.
- Mae twmpathau cyflymder isel ar y lonydd tarmac a mynediad agored drwy’r canol.
- Gyda’r nos ceir digon olau yn y prif faes parcio a’r ardal o gwmpas adnoddau’r cwsmeriaid, a darperir golau lefel isel cyffredinol o gwmpas gweddill y Parc.
- Gwasanaethir y Parc gan ‘hook-ups’ 16 Amp.
- Ceir lleiniau wedi eu gwasanaethu’n llawn yn Y Berllan sy’n darparu dŵr a draeniad ar gyfer dŵr llwyd.
- Mae pwyntiau dŵr wedi eu lleoli’n gyfleus o gwmpas y parc.
- Mae’r dderbynfa yn siop y gwersyll a gellir mynd â chadair olwyn fewn iddi, ceir cownter a desg isel; mae safle parcio anabl gerllaw. Mae’r staff yn hapus i helpu gyda chofrestu a byddant yn helpu gyda rhoi’r garafán yn ei lle os oes angen.
- Mae siop y gwersyll yn darparu nwyddau sylfaenol, Camping Gaz a nwy Calor. Mae Morrison, Co-op ac Aldi yn Aberhonddu – 4 milltir.
- Mae’r bloc tai bach yn Y Berllan ger Siop y Gwersyll. Gallwch gael mynediad drwy gadair olwyn i’r adnoddau golchi dillad, ystafell sychu, ystafell wybodaeth, ystafell olchi llestri a phwyntiau gwastraff cemegol.
- Mae’r ddwy ystafell tŷ bach a chawod anabl wedi eu lleoli yn y prif adeilad, sydd yn Y Berllan. Mae’r rhain yn ystafelloedd eang iawn sydd hefyd yn ystafelloedd teulu ag adnoddau newid babi.
- Mae’r adnoddau anabl yn cynnwys sedd gawod fawr, tŷ bach, basn ymolchi, sychwr gwallt a phwynt eillio.
- Mae rheiliau gafael wedi’u gosod yn y gawod anabl.
- Ni chaniateir cŵn yng Nghastell Pencelli. Fodd bynnag, caniateir cŵn tywys.
- Mae rhwydwaith ffônau symudol yn dda.
- Gellwch gael chwyddwydr o’r dderbynfa.
- Mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn agos at fynedfa’r gwersyll. Sixty-Sixty sy’n rhedeg y bysiau. Fel arfer ceir bysiau hawdd mynd mewn iddynt â llawr isel. Amserlenni ar gael yn y dderbynfa.
Mae tacsis lleol hefyd ar gael.

|