|
Llogi Beiciau Mynydd Mae beiciau mynydd o ansawdd da ar gael i’w llogi o’r safle. Ceir casgliad da o feiciau o bob maint, mewn cyflwr da. Darperir helmedau ac offer trwsio hefyd. Fe’ch cynghorir i archebu ymlaen llaw. Ceir gymaint o draciau, llwybrau, lonydd a chefn gwlad agored i’w harchwilio, gan gynnwys Taith y Taf sy’n pasio drwy Bencelli, ond da chi, cofiwch y cod Cefn Gwlad ar bob achlysur. Am fwy o fanylon am feicio edrychwch ar ‘Bikes & Hikes’.
Dyddiau Gweithgaredd Fuoch chi’n Ogofâu neu’n Crwydro Ceunant erioed? Ffansïo rhoi cynnig ar Abseilio neu Ddringo Creigiau? Pam nad ewch gyda hyfforddwr lleol am ddiwrnod gwych yn yr awyr agored. Neu ewch gyda thywysydd lleol i gerdded neu seiclo gyda chi ac i ddangos popeth sydd i’w wybod am yr ardal brydferth hon. Mountain and Water. Ffôn: 01873 831 825 neu Bikes & Hikes. Ffôn: 01874 610071. Mae Fferm Antur Cantref Adventure Farm yn ddelfrydol i’r plant gyda’i amrywiaeth gwych o offer chwarae, ysgubor anifeiliaid tro cerdded awyr agored ar y ffarm ac amrywiol sioeau yn ystod yr haf. Ffôn: 01874 665223.
Pysgota Mae nifer o lefydd ym Mannau Brycheiniog ar gyfer pysgota Samwn/Eog; Brithyll a Genwair.
Merlota Ceir nifer o lefydd lle gallwch fynd i ferlota ond yr agosaf at Gastell Pencelli yw Cantref Pony Trekking and Riding Centre. Cewch ofal da oddi wrth staff hyfforddedig a fydd yn helpu dechreuwyr ac yn cynorthwyo’r mwy profiadol. Wedi i chi daclu lan byddwch yn cael cyfarwyddyd (llywio, brêcs ac yn y blaen). Bydd y daith yn eich cymryd i Fannau Brycheiniog (os yw’r tywydd yn caniatáu). Gallwch un ai gael diwrnod llawn, hanner diwrnod neu awr o reid yn unig. Fe’ch cynghorir i archebu ymlaen llaw.
Ffôn: 01874 665223
Golff Mae 2 glwc golff yn agos at Aberhonddu. Mae Clwb Cradoc Club yn gwrs 18 twll tra bod 9 twll gan Glwb Aberhonddu/ Brecon Club.
Rhifau Ffôn Clybiau Golff Cradoc ac Aberhonddu:
Clwb Golff Cradoc/ Cradoc Golf club Ffôn: 01874 623658
Clwb Golff Aberhonddu/ Brecon Golf Club Ffôn:01874 622004

|