|
Ni fyddai gwyliau yng Nghymru’n gyflawn heb ddringo Bannau Brycheiniog. Gallwch gerdded o Gastell Pencelli i’r copa uchaf, Pen-Y-Fan mewn ychydig dros dair awr. Mae’r dro yn arwain heibio Eglwys Llanfeugan drwy gaeau agored ac i fyny at Fannau Brycheiniog. Gallwch ddilyn traciau defaid a’r grib uchel â’i golygfeydd ysblennydd yr holl ffordd i Ben y Fan. Mae llethr y tirwedd yn laswelltog ac yn cynyddu gan bwyll. Mae defaid mynydd Cymreig yn pori ar Fannau Brycheiniog a thros y blynyddoedd maent wedi treulio llwybrau, sydd, os dilynwch hwynt yn gwneud y cerdded llawer yn haws.
Ceir nifer o lyfrau canllaw sy’n uwcholeuo’r llwybrau mwyaf poblogaidd ond gyda chymorth map O.S. a chwmpawd gallwch hefyd fynd yn eich blaen at ardaloedd tawelach lle gallwch gerdded drwy’r dydd heb weld neb.
Mae miloedd o filltiroedd o lwybrau cyhoeddus a ffyrdd seiclo gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae nifer o’r llwybrau’n arwain yn uniongyrchol o Gastell Pencelli gyda rhai yn fwy anghysbell na’i gilydd. Mae’n bosib seiclo drwy’r dydd, wedi’ch amgylchynu gan olygfeydd godidog, heb i chi gwrdd â neb. Mae ein staff ar gael i gynghori ar bob un o’r teithiau/llwybrau.
Ceir arweinlyfrau o’r parc gwersylla ar gyfer cerdded bryniau, cerdded lefel isel a seiclo.
Gofal Gall y tywydd newid yn gyflym iawn ar Fannau Brycheiniog, mae dillad tywydd gwlyb a synnwyr cyffredin da yn hanfodol ar bob achlysur.

|