|
Toiled / Bloc Cawod Mae’r adnodd wobrwyedig yma’n foethus, yn eang ac wedi ei wresogi’n ganolog drwyddo. Yn ogystal â digon o dai bach a chawodydd am ddim, ceir ystafelloedd ymolchi preifat gyda sychwyr dwylo a sychwyr gwallt ym mhob un.
Mae’r ddwy Ystafell Deulu wedi’u cynllunio a’u taclu gydag anghenion rhieni mewn golwg. Mae cawodydd dwbl yn y ddwy a lle newid ar wahân, sychwyr dwylo a gwallt. Mae gorsaf newid babi yn y ddwy a sedd ddiogel ar gyfer plentyn bach. Mae’r ystafelloedd yma wedi eu cyfarparu’n llawn ar gyfer anabledd categori 2.
Ceir golchdy wedi ei gyfarparu’n dda gan beiriannau golchi masnachol, peiriannau sychu, peiriant sbinio, haearn smwddio a bwrdd smwddio.
Darperir Ystafell Sychu lle gellir rhoi bŵts, cotiau ac yn y blaen mewn loceri i’w sychu dros nos.
Mae’r Ystafell Olchi llestri yn eang a dymunol gan wneud y dasg ychydig yn haws ei gyflawni.
Os ydych angen help i gynllunio’ch dydd, gofynnwch i aelod o’r staff neu ymwelwch â’r Ystafell Wybodaeth lle gallwch bori drwy daflenni. Gallwch hefyd gael rhagolygon y tywydd a gwybodaeth gyffredinol arall yma.

O Gwmpas y Parc Mae ardal chwarae ddymunol sy’n cael ei chadw’n raenus, wedi ei lleoli tu allan i’r prif gaeau carafanio a gwersylla. Yn ffinio â’r ardal Chwarae, gyda’r holl offer chwarae arferol, ceir ardal laswelltog, lle cynhelir nifer o gemau pêl-droed, rygbi a chriced.
Mae’r lleiniau carafanio a gwersylla yng Nghastell Pencelli ar 3 gwahanol gae, Y Berllan, Y Deri a'r Ddol.
Y Berllan dyma’r llain i garafannau a chartrefi modur. Ceir lleoliadau graeanog, eang, a gellir cyrraedd atynt o’r ffordd darmac, gylchog. Mae nifer o leiniau â Gwasanaeth hefyd, lle gallwch gysylltu’ch carafán yn uniongyrchol â’r tap dŵr yn hytrach na’i gario o’r tap cymunedol. Gallwch hefyd gysylltu’ch dŵr gwastraff yn uniongyrchol â’r draen yn ogystal â’r ‘hook-up’ trydanol arferol (16 amp). Mae’r Berllan wedi’i lleoli ar lwyfandir yn ffinio â’r bloc cawodydd ac mae o fewn cwrtil waliau’r castell. Yn anffodus mae’r waliau hyn wedi hen ddiflannu.
Y Deri addas i garafannau, cartrefi modur a phebyll. Mae amrywiaeth o leoliadau caled neu laswellt byr. Mae ‘hook-ups’ trydanol ar gael ar leiniau eang, sydd wedi eu rhifo.
Y Ddôl ar gyfer pebyll yn unig. Y lleoliad pellaf o’r bloc cawodydd, ceir teimlad hyfryd o ehangder a rhyddid yma, gan ei wneud yn ffefryn gyda gwersyllwyr. Mae coed aeddfed yn ffinio 2 ochr iddi, credir taw un ohonynt yw’r dderwen fwyaf yn y plwyf. Mae Camlas Aberhonddu a Mynwy yn rhedeg ar hyd y Ddol - a gallwch lansio canŵ fan hyn neu fwynhau picnic wrth i’r badau camlas lliwgar basio heibio. Mae Tŷ Golchi Beics a Bŵts yn y Ddol hefyd, felly gallwch gael popeth yn lân cyn i chi ymadael.
Mae digon o bwyntiau dŵr gan y 3 chae ac maent wedi eu goleuo’n dda yn ystod y nos.

|