|
Mae llawer iawn i’w weld a’i wneud o fewn awr o yrru o Gastell Pencelli.
Amgueddfa Lofaol y Pwll Mawr Big Pit Mining Museum Ewch yn ddwfn dan ddaear a phrofi i chi’ch hun sut beth oedd bywyd y glöwr. Cewch eich cymryd 90 medr i’r ffas lo a’ch tywys yn abl gan gyn-lowyr. Mae eu sylwebaeth a’u straeon yn ddiddorol iawn, ac wedi’i seilio ar eu profiadau eu hunain. Ffôn: 01495 790311
Cestyll Ceir nifer o gadarnleoedd yn y rhan hon o Gymru, rhai ag ychydig o olion fel Castell Pencelli, eraill sy’n sefyll yn dalog i’n hatgoffa o grefftwaith wych dyddiau a fu. Un o’r rhain yw Castell Rhaglan. Raglan Castle <http://www.castlewales.com/raglan.html>. Adeiladwyd yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gwelodd frwydro ffyrnig a thywallt gwaed. Heb amheuaeth dyma gaer ganol oesol wychaf Prydain ac mae’n werth ymweld â hi. Ffôn: 01291 690228
Ogofâu Dan-yr-Ogof Disgrifiwyd fel ogofâu sioe fwyaf ysblennydd Gorllewin Ewrop. Ceir tair ogof i’w harchwilio, fferm oes haearn, parc deinasor, canolfan ceffylau gwedd, llethr sgïo sych a llawer mwy.
Ffôn: 01639 730284
Ogofâu a Rhaeadrau Ystradfellte Gyrrwch drwy Fannau Brycheiniog a throsodd am Ystradfellte ar gyfer y trip yma. Mae nifer o raeadrau i’w gweld yn ogystal ag ogofâu a pheidiwch â cholli’r rhaeadr y gallwch gerdded tu ôl iddi, Sgwd yr Eira. Argymhellir esgidiau cerdded da gan y gall y llwybr fod ychydig yn llithrig mewn mannau.
Amgueddfa Werin Sain Ffagan mae’n rhaid taw dyma un o ryfeddodau’r byd a adeiladwyd gan ddyn. Ceir tai o bob math, capel, eglwys, fferm, ysgol a nifer mwy o adeiladau yn Sain Ffagan. Maent oll wedi eu tynnu i lawr yn ofalus o’u lleoliad gwreiddiol, gan rifo pob carreg, ac yna’ u cludo’n boenus o ofalus i Sain Ffagan I’w hail adeiladu gan gadw at y manylyn lleiaf. Ffôn : 02920 569441
Aberglasne Mewn lleoliad gwych ym mhrydferthwch Dyffryn Tywi, Sir Gâr, mae gerddi Aberglasne wedi ysbrydoli beirdd ers 1477. Mae stori Aberglasne’n pontio nifer o ganrifoedd, ond annelwig yw gwreiddiau hanesyddol y tŷ. Ar y ffordd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Rheidrwydd i bawb sy’n caru planhigion o bob math. Wedi’i lleoli yn Sir Gâr, Mae’r atyniad gwych yma’n gystadleuydd â Phroject Eden, Cernyw.

|