|
M ae nifer o lefydd i bysgota o gwmpas Bannau Brycheiniog. Mae Awdurdod y Parciau Cenedlaethol wedi argraffu taflen ‘Ble i fynd i Bysgota’ sy’n rhoi manylion o’r dyfroedd i gyd. Ffôn: 01874 623156.
Dyma ddetholiad o’r rhai agosaf at Barc Carafanio a Gwersylla Castell Pencelli.
Camlas Mynwy ac Aberhonddu mae hwn yn pasio drwy bentref Pencelli ger ochr y parc. Pysgotwch am ddraenogyn, brwyniad, carp, merfog, llysywod ac yn y blaen. Am drwydded a manylion pellach Ffôn: 01873 830328.
Afon Wysg enwog am ei frithyll brown. Mae rhan fwyaf o’r afon dan berchnogaeth breifat ond ceir nifer o blatfformau i chi bysgota yn ardal Aberhonddu. Am drwydded a gwybodaeth bellach: 01874 622977
Afon Gwy enwog am ei Eog ond hefyd yn le da i ddal pysgod bras fel penhwyad, brwyniad, draenogyn, ac yn y blaen. Trwydded a manylion: 01497 847227.
Ceir nifer o gronfeydd yn yr ardal. Maen nhw i gyd yn y mynyddoedd ac yn darparu cyfle hyfryd am ddiwrnod o bysgota. Ewch â’ch tacl pysgota a’ch brechdanau a mwynhewch dawelwch a heddwch, ond gofalwch eich bod yn gwerthfawrogi’r golygfeydd o’ch amgylch.
Cronfa Tal-y-bont: Brithyll (plu yn unig). Trwydded o beiriant yn y gwaith trin dŵr islaw’r argae. Neuadd Uchaf: Brithyll brown gwyllt (plu yn unig). Trwydded o’r siop dacl, Cefn-Coed, Ffôn: 01685 379809. Cronfeydd Dol-Y-Gaer a Phontsticill: Brithyll brown gwyllt, penhwyad, draenogyn, a gwrachen (pob dull). Trwydded o’r siop dacl, Cefn-Coed, Ffôn: 01685 379809.

|